An electric shock! How incorrect address information led my long-term...
I have lived in the same property for almost nine years and for all of this time, I have been supplied with gas and electricity by the same utility provider. … read more
Os byddwch yn gyrru ar hyd heol fach yn y wlad yng Nghymru, buan iawn y gwelwch y gair ‘ARAF’ wedi ei ysgrifennu ar y ffordd mewn llythrennau bras. Yn ffodus iawn, i bobl ddi-gymraeg fel fi, mae’r gair Saesneg, ‘SLOW’, fel arfer wedi ei ysgrifennu hefyd. Rydych yn ymwybodol mwy na thebyg bod llawer o arwyddion ffyrdd Cymraeg yn cynnwys yr enw Cymraeg a’r enw Saesneg yn aml, ond a oeddech yn gwybod bod y ddwy iaith hefyd yn bodoli ochr yn ochr yn y Ffeil Cyfeiriadau Côd Post?
Os oes fersiynau ‘Cymraeg’ o’r cyfeiriadau ar gael yng Nghymru, mae systemau gweithredol y Post Brenhinol wedi cael eu datblygu i allu darllen y cyfeiriad yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’n cyfeirio, didoli ac yn trefnu’r post yn yr un ffordd, waeth pa iaith a ddefnyddir ar yr amlen. Mae hyn yn galluogi dinasyddion i ddewis pa iaith y maent eisiau ei defnyddio wrth archebu nwyddau a gwasanaethau, gan wybod y cânt eu dosbarthu’n gyflym ac yn ddiogel.
Mae hyn yn golygu, os ydych eisiau ysgrifennu at y Cyngor Sir yn Ynys Môn, mae dau gyfeiriad dilys ar gael:
Cyngor Sir Ynys Môn Isle of Anglesey County Council
Swyddfa’r Cyngor Council offices
Llangefni Llangefni
Ynys Môn Anglesey
LL77 7TW LL77 7TW
Gwnewch y pethau bychain
Felly sut gellir manteisio ar hyn a defnyddio eich dewis iaith? Mae cronfa ddata’r Post Brenhinol o gyfeiriadau post y DU, y Ffeil Cyfeiriadau Côd Post (PAF®), yn cynnwys manylion bob un o’r 1.5 miliwn o gyfeiriadau post yng Nghymru ac mae gan ryw dri chwarter o’r rhain fersiwn Cymraeg. Mae’r ffeil hon o gyfeiriadau amgen ar gael i bob sefydliad sy’n cael cyflenwad PAF gennym ni. Wrth i sefydliadau chwilio am ffyrdd cadarnhaol o wneud eu hunain yn wahanol i’w cystadleuwyr, gall gwneud y pethau bychain fel gweld a fyddai’n well gan gwsmeriaid yng Nghymru ddefnyddio’r fersiwn Cymraeg neu Saesneg o’u cyfeiriad ac yna’i ddefnyddio i ysgrifennu atynt, wneud gwahaniaeth mawr.
Felly, os ydych yn anfon post marchnata i Faesteg neu barsel pwysig i Bontypridd, beth am ddefnyddio dewis iaith eich cwsmer wrth nodi’r cyfeiriad. Siaradwch â ni, eich Darparwr Atebion PAF presennol neu gallwch ddod o hyd i gyflenwr PAF sy’n ymgorffori’r fersiwn Gymraeg yn eu hatebion i ganfod mwy.
Scott Childes
Rheolwr Cyflenwadau Data